Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y_Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher, 1
Gorffennaf 2020
Amser y
cyfarfod: 11.00
------
Cynhelir y cyfarfod hwn drwy gynhadledd fideo.
Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, mae'r Llywydd wedi penderfynu:
· Y cworwm i unrhyw bleidlais fod yn ddilys fydd pedwar Aelod, yn unol â Rheol Sefydlog 34.10; ac
· Yn unol â Rheol Sefydlog 34.11, caiff pob grŵp gwleidyddol (neu grwpiad a ffurfir at ddibenion Rheol Sefydlog 11) enwebu un Aelod o'r grŵp neu'r grwpiad i gael yr un nifer o bleidleisiau ag sydd o aelodau'r grŵp neu yn achos grŵp gwleidyddol sydd â rôl weithredol, aelodau’r grŵp hwnnw yn ogystal ag unrhyw aelodau eraill o’r llywodraeth.
Mae'r Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod y cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn, fel sy’n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu’n fyw a bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(15 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd - (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol)
(30 munud)
4 Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
5 Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
6 Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd
(20 munud)
7 Cwestiynau Amserol
(20 munud)
Gofyn i’r Gweinidog Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y trafodaethau a gafwyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn dilyn y cyhoeddiad am golli swyddi yn Airbus?
8 Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Yr Argyfwng Hinsawdd
(45 munud)
9 Dadl: Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol ar Reoliadau Deddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (Diwygiadau Canlyniadol) 2020
(15 munud)
NDM7340 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd yn cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 30A.10, i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud Rheoliadau Deddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (Diwygiadau Canlyniadol) 2020, yn unol â'r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mai 2020.
Gosodwyd y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mai 2020, yn unol â Rheol Sefydlog 30A.2.
Dogfen
Ategol
Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
10 Dadl y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau ar effeithiau COVID-19 ar Economi, Seilwaith a Sgiliau Cymru
(60 munud)
NDM7341 Russell George (Sir Drefaldwyn)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiadau Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Effaith COVID-19: Crynodeb o'r canfyddiadau cychwynnol a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mehefin 2020 ac Effaith COVID-19: Sgiliau – canfyddiadau cynnar a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Mehefin 2020.
Dogfennau Ategol – Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sqilia
11 Dadl Plaid Cymru - Cwricwlwm Newydd Arfaethedig
(60 munud)
NDM7342 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn datgan cefnogaeth gyffredinol i bwrpas y cwricwlwm newydd arfaethedig, sef galluogi dysgwyr i ddatblygu fel:
a) dysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau;
b) cyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith;
c) dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd; ac
d) unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
2. Yn cytuno bod cyflwyno’r cwricwlwm newydd yn cynnig cyfle hanesyddol i unioni sawl anghyfiawnder strwythurol yng Nghymru.
3. Yn croesawu cydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru bod cyfrifoldeb ar lywodraeth gwlad i gymryd camau penodol i sicrhau bod y cwricwlwm yn gwarantu gwaelodlin o ddarpariaeth i bobl ifanc ar draws Cymru fel mater o hawliau dynol sylfaenol ac yn croesawu y bydd rhai elfennau o’r cwricwlwm newydd yn orfodol o ganlyniad.
4. Yn cytuno y dylai’r elfennau gorfodol o’r cwricwlwm gynnwys:
a) hanes pobl ddu a phobl o liw; a
b) hanes Cymru.
5. Yn cytuno y dylai’r cwricwlwm newydd gefnogi pob dysgwr i fod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg, ond nad oes angen i’r Saesneg gael ei chynnwys yn y rhestr o elfennau gorfodol er mwyn cyflawni’r nod hwn.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn cytuno y gall y cwricwlwm newydd, os yw'n llwyddo yn ei amcanion, helpu i ddatblygu dinasyddion hyderus, sy'n gyd-gyfrifol, a fydd yn rhagweithiol wrth fynd i'r afael ag anghyfiawnder o bob ffynhonnell.
Gwelliant 2 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu pwyntiau 4 a 5 a rhoi yn eu lle:
Yn cydnabod bod canllawiau’r Cwricwlwm Newydd i Gymru o ran y Dyniaethau yn “hyrwyddo dealltwriaeth o’r amrywiaeth ethnig a diwylliannol yng Nghymru” ac yn “galluogi dysgwyr i ymroi i weithredu cymdeithasol fel dinasyddion cyfranogol, gofalgar o’u cymunedau lleol, cenedlaethol a byd-eang.”
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i:
a) gweithio gydag Estyn er mwyn sicrhau bod eu hadolygiad o hanes Cymru yn rhoi ystyriaeth lawn i hanes, hunaniaeth a diwylliant pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru a thu hwnt; a
b) sefydlu gweithgor i oruchwylio’r gwaith o ddatblygu adnoddau dysgu, ac adnabod bylchau yn yr adnoddau neu’r hyfforddiant presennol yn ymwneud â chymunedau, cyfraniadau a phrofiadau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.
Yn cytuno y dylai’r cwricwlwm newydd gefnogi pob dysgwr i ddysgu Cymraeg a Saesneg.
Cwricwlwm i
Gymru - Y Dyniaethau – Canllawiau
[Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliannau 3 a 4 ei
ddad-ddethol]
Gwelliant 3 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ym mhwynt 4, dileu is-bwyntiau 4(a) a 4(b) a rhoi yn eu lle:
hanes Cymru; hanesion y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon; a hanesion rhannau eraill o'r byd, a bod:
(i) pob un o'r uchod i gynnwys hanes pobl dduon a phobl o liw; a
(ii) pob un o'r uchod yn cael eu rhoi mewn cyd-destun;
addysgu sgiliau achub bywyd, fel y nodwyd yn flaenoriaeth gan y Senedd Ieuenctid.
Gwelliant 4 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:
Yn cytuno y dylai'r cwricwlwm newydd gefnogi pob dysgwr i fod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan sicrhau bod cymorth ar gyfer dysgu Cymraeg yn ystyried yr effaith fanteisiol a geir eisoes yn sgil y ffaith bod dysgwyr o dan ddylanwad amgylcheddol amlycach i’r Saesneg.
Gwelliant 5 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y cwricwlwm yn darparu ar gyfer dysgu Cymraeg a bod hyn yn cael ei ategu gan fuddsoddiad i sicrhau bod cyrsiau trochi dwys yn y Gymraeg ar gael yn rhwydd i athrawon a disgyblion fel ei gilydd.
Gwelliant 6 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar y cwricwlwm newydd i sicrhau bod pob disgybl yn dysgu iaith dramor fodern o flwyddyn 1 yn yr ysgol.
Gwelliant 7 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu mai'r ffordd orau o roi'r cwricwlwm newydd ar waith yn llwyddiannus yw drwy leihau maint dosbarthiadau i lai na 20 o ddisgyblion.
Gwelliant 8 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i ailystyried y dyddiad cychwyn ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm newydd i ddarparu ar gyfer oedi wrth ei baratoi oherwydd COVID-19.
12 Cyfnod pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 11.00, Dydd Mercher, 8 Gorffennaf 2020